Plaid Cymru yn ymosod ar “prosiect oferedd” Llafur wrth agor llyfrgell
19/01/2016
Dengys ffigyrau a gafwyd gan Blaid Cymru bod llyfrgell Aberbargod - a ail agorwyd gan grŵp reoli Llafur - ond wedi rhoi allan ond pum eitem pob awr ers mis Ebrill - yr isaf drwy gydol y fwrdeistref sirol.
Ac roedd yna lai na 10 ymweliad yr awr i’r llyfrgell a’r ganolfan adnoddau rhwng Ebrill 1af a diwedd mis Medi, 2015, yn ôl ffigyrau a gafodd Plaid Cymru dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Yn wrthgyferbyniol, cafodd llyfrgell Bargoed gerllaw 60 ymweliad yr awr yn ystod yr un cyfnod.
Ail agorwyd llyfrgell Aberbargod gan y Blaid Lafur yn 2013 - er gwaethaf rhybuddion gan gynghorwyr Plaid Cymru - wedi ailwampiad o £90,000.
Dywedodd y Cynghorydd Colin Mann, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerffili: “Mae hyn yn dangos mor ddrud fu’r ffolineb o ail agor llyfrgell Aberbargo
d pan oedd llyfrgell wych ond milltir i ffwrdd ym Margoed.
“Mae’r ffigyrau hyn yn dangos nad oes llawer o ddefnydd ar lyfrgell a chanolfan adnoddau Aberbargod ers ei ail agor yn 2013. Doedd yr ail agoriad yn ddim byd ond prosiect oferedd drud gan y grŵp Llafur, un y gallai’r trethdalwyr braidd ei fforddio. Ac mae’r cyngor eisoes wedi torri oriau agor llyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref