Hafan
Croeso i wefan Cymdeithas Cynghorwyr Plaid Cymru.
Fel sefydliad ein nod yw helpu aelodau’r Blaid i ennill etholiadau cyngor ac i helpu Cynghorwyr y Blaid i roi’r gynrychiolaeth orau bosibl i’w hetholwyr.
Rydym yma i gefnogi holl Gynghorwyr Plaid Cymru - a’r rhai sy’n dymuno dod yn Gynghorwyr yn y dyfodol.
Mae gan Blaid Cymru ar hyn o bryd dros 200 o Gynghorwyr Sir a llawer o Gynghorwyr Tref a Chymuned.
Fel plaid wedi gwreiddio yng nghymunedau Cymru, gwyddom fod cynghorau lleol yn lefel bwysig o lywodraeth.
Mae gan gynghorau Cymru ddylanwad pwysig dros fywydau ein dinasyddion. Pan ddaw’n fater o addysg, gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, gwastraff, tai ac ati, mae ein cynghorau ar y blaen wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn.

